Carl Sargeant AC
 Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

16 Tachwedd 2016

Y gyllideb ddrafft ar gyfer 2017/18

Annwyl Ysgrifennydd y Cabinet

 

Diolch am fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg ar 2 Tachwedd i drafod y gyllideb ddrafft, ac am ddarparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani cyn y cyfarfod.

 

Teimla'r Pwyllgor fod y sesiwn yn un gynhyrchiol ac mae'n croesawu eich sylwadau ar yr angen i wneud penderfyniadau dewr, yn enwedig mewn perthynas ag ymyriadau ataliol ar gyfer profiadau niweidiol i blant a chymunedau gwydn.

 

Ar bwynt cyffredinol, mae'r Pwyllgor yn pryderu bod diffyg eglurder ynghylch y dyraniadau ar gyfer rhaglenni penodol, fel Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. At hynny, mae'r cyllid ar gyfer rhai meysydd polisi pwysig o fewn eich portffolio, fel plant sy'n derbyn gofal, yn dod o fewn cyllidebau Ysgrifenyddion eraill y Cabinet ar hyn o bryd. Mae'r diffyg eglurder hwn yn gwneud craffu ar y dyraniadau hynny yn anodd. 

 

Ceir amlinelliad o sylwadau'r Pwyllgor ar raglenni penodol o fewn eich portffolio isod.

 

Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg a Cymunedau yn Gyntaf

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb - Atal ac Ymyrraeth Gynnar

 

Gwnaethoch ddweud wrth y Pwyllgor eich bod wedi uno llinellau'r gyllideb ar gyfer Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Cymunedau yn Gyntaf yn un llinell, sef Llinell Wariant yn y Gyllideb - Atal ac Ymyrraeth Gynnar Fodd bynnag, ni chaiff y rhaglenni eu hunain eu huno a byddant yn parhau i weithredu fel endidau ar wahân.

 

Mewn blynyddoedd blaenorol, roedd llinellau gwariant unigol ar gyfer pob un o'r tair rhaglen, ac felly roedd y Pwyllgor yn cael dadansoddiad o'r dyraniadau cyn y sesiwn graffu. Cyn y cyfarfod eleni, hysbysodd eich swyddogion y Pwyllgor nad oedd dadansoddiad o'r dyraniadau ar gyfer pob rhaglen ar gael. Fodd bynnag, yn ystod y cyfarfod, roeddech yn gallu dweud wrth y Pwyllgor y symiau penodol a oedd wedi'u dyrannu i bob un o'r rhaglenni.

 

Mae hyn yn codi tri mater y mae angen rhoi sylw iddynt, ym marn y Pwyllgor.

 

Yn gyntaf, mae'r diffyg gwybodaeth fanwl am ddyrannu cyllid i'r rhaglenni pwysig hyn yn gwneud y gwaith craffu yn anodd. Mae'r cyfanswm a ddyrannwyd i Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Cymunedau yn Gyntaf yn y gyllideb ddrafft yn £154.38 miliwn - cyfran sylweddol o'r gyllideb yr ydych yn gyfrifol amdani. Mae'n hanfodol ar gyfer gwaith craffu da i'r Cynulliad allu cael gafael ar wybodaeth am faint o gyllid sydd wedi'i ddyrannu i raglenni mawr Llywodraeth Cymru.

 

Yn ail, mae'n amlwg fod gan Lywodraeth Cymru y wybodaeth hon, ond na fyddai'n ei darparu i'r Pwyllgor. Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech egluro pam. 

 

Yn drydydd, mae'r Pwyllgor yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ceisio rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ar gyfer y defnydd o'r cronfeydd hyn. Fodd bynnag, rhaid cael cydbwysedd i sicrhau bod y Cynulliad yn gallu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei phenderfyniadau; canfod a yw Llywodraeth Cymru yn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr; a sicrhau bod polisïau yn effeithiol. 

 

Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg

 

Mae'r Pwyllgor yn nodi eich ymrwymiad, mewn egwyddor, i barhad Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg. Rydym hefyd yn cydnabod bod angen i'r ddwy raglen esblygu er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben.

 

Fel yr amlinellwyd uchod, mae'r Pwyllgor yn cydnabod y gall uno'r cyllidebau ar gyfer y ddwy raglen roi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol, ond mae pryderon o hyd ynghylch lefel yr oruchwyliaeth a fydd gennych o ran y gwariant a'r canlyniadau yr ydych yn eu disgwyl o ganlyniad i bolisïau allweddol y Llywodraeth.

 

Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael rhagor o wybodaeth am sut yr ydych yn bwriadu monitro'r defnydd o'r cyllid cyfunedig ar gyfer y rhaglenni.

 

Gwnaethoch gyfeirio hefyd at elfen allgymorth Dechrau'n Deg a sut y mae wedi 'dechrau mynd i'r afael' â chyfyngiadau'r rhaglen, h.y. ei bod yn seiliedig ar leoliad. Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael gwybodaeth am unrhyw asesiad neu werthusiad yr ydych wedi'u cynnal ar yr elfen hon o'r rhaglen.

 

 

 

Cymunedau yn Gyntaf

 

Mae'r Pwyllgor yn nodi eich bod wedi cyhoeddi eich bod yn bwriadu dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben a'ch bod ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad ynghylch a ddylai'r rhaglen barhau.

 

Gwnaethoch roi gwybod i'r Pwyllgor, os byddwch yn penderfynu 'gadael' Cymunedau yn Gyntaf, 'y bydd yn ymadael dan reolaeth'. Rhowch ragor o wybodaeth am yr hyn y byddech yn ei ystyried i fod yn 'ymadael dan reolaeth' a sut y caiff ei reoli. 

 

Byddai'r Pwyllgor hefyd yn ddiolchgar pe gallech ddarparu gwybodaeth am y sail dystiolaeth y byddwch yn ei ystyried wrth wneud eich penderfyniad; a'r amcangyfrifon o'r costau a'r buddiannau o roi'r gorau i'r rhaglen.

 

Parthau Plant

 

Mae'r Pwyllgor yn nodi eich sylwadau am Barthau Plant, sef cysyniad Llywodraeth Cymru sydd yn ei ddyddiau cynnar o hyd. Mae'r Pwyllgor yn deall y bydd yn cynnwys nifer o ymyriadau gwahanol sydd wedi'u targedu i gefnogi'r plentyn neu'r person ifanc. Y broblem gyda dull o'r fath yw ei bod yn anodd priodoli llwyddiant i un ymyriad ac, felly, asesu effeithiolrwydd a gwerth am arian pob ymyriad. At hynny, gellir ariannu ymyriadau lluosog ar draws portffolios Gweinidogion lle bydd cydweithrediad yn ofynnol.

 

Bydd y Pwyllgor yn gofyn am ragor o wybodaeth wrth i'r cysyniad gael ei ddatblygu.

 

Gofal plant

 

Mae'r Pwyllgor yn nodi bod oddeutu £10 miliwn wedi'i ddyrannu i waith archwilio a gwaith i dreialu'r rhaglen uchelgeisiol hon. Mae'r Pwyllgor yn gefnogol o'r egwyddor sy'n sail i'r rhaglen ac yn cydnabod bod y rhaglen yn dal yn ei dyddiau cynnar. Er hynny, mae'r diffyg eglurder ynghylch nifer o faterion yn peri pryder.

 

Costau'r rhaglen

 

Mae'r Pwyllgor yn nodi bod eich amcangyfrif o gostau'r cynnig gofal plant fel y rhagwelir ar hyn o bryd yn £100 miliwn y flwyddyn.

 

Roedd dadansoddiad gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn awgrymu y gallai'r costau fod rhwng £125 miliwn a £228 miliwn.

 

Gwnaethoch ddweud bod y tybiaethau sy'n sail i gyfrifiadau'r Sefydliad yn ystyried cynnig gofal plant yn ystod y tymor, a oedd yn anghywir, gan fod cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru yn ymestyn nid yn unig i gyfnod y tymor, ond i 48 wythnos y flwyddyn.

 

Mae'r Pwyllgor yn cwestiynu sut y gall amcangyfrif Llywodraeth Cymru o gostau, os yw'n seiliedig ar gynnig sy'n cynnwys mwy o wythnosau yn y flwyddyn, fod yn is nag amcangyfrif y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn gwneud rhagdybiaethau gwahanol i'r Sefydliad.

 

Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech ddarparu gwybodaeth am y rhagdybiaethau yr ydych yn eu defnyddio fel sail ar gyfer eich amcangyfrifon a'r dystiolaeth yr ydych yn ei defnyddio fel sail ar gyfer y tybiaethau hynny. A allwch hefyd ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor am unrhyw fodelau eraill o ddarpariaeth yr ydych wedi'u hystyried a'r costau a'r buddiannau sy'n gysylltiedig â hwy?  

 

At hynny, byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael gwybodaeth am eich asesiadau o fuddiannau ariannol y rhaglen fel y'u rhagwelir ar hyn o bryd, pan fydd ar gael.    

 

Gwnaethoch ddweud wrth y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i ddarparu'r rhaglen hon ac y caiff ei chostau eu rheoli o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru. O ystyried y diffyg eglurder ynghylch costau, mae'r Pwyllgor yn cwestiynu doethineb ymrwymiad o'r fath. Os bydd costau gwirioneddol y rhaglen yn agosach i'r amcangyfrifon uwch a wnaed gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, bydd yn cael effaith sylweddol, barhaus ar gyllidebau adrannau a rhaglenni eraill.

 

Gweithlu

 

Mewn perthynas â chapasiti'r gweithlu i ddarparu'r rhaglen, gwnaethoch ddweud wrth y Pwyllgor fod hyn yn bryder sylweddol ichi - yn fwy felly hyd yn oed na chostau'r rhaglen. Soniwyd hefyd am y pwysigrwydd o sicrhau bod y gweithlu o ansawdd uchel.

 

Fodd bynnag, ni wnaethoch roi manylion am sut yr eir i'r afael â'ch pryderon ynghylch capasiti'r gweithlu. Efallai mai dyma'r achos gan fod y rhaglen yn dal i fod yng nghyfnod cynnar y datblygiad, ond mae'r Pwyllgor yn pryderu bod maint y dasg yn sylweddol a bod angen gwneud cynnydd yn gyflym.

 

Gyda hyn mewn golwg, byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech ddarparu gwybodaeth am yr asesiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud o gapasiti'r gweithlu i ddarparu'r rhaglen; y gwaith cynllunio sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â phroblemau posibl gyda chapasiti; ac asesiadau o'r costau o sicrhau bod capasiti'r gweithlu yn ddigonol i ddarparu'r rhaglen.  

 

Darpariaeth Gymraeg

 

Gwnaethoch ddweud eich bod wedi cael trafodaethau cynnar gyda'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg. Gwnaethoch ddweud hefyd y bydd y cynlluniau peilot yn darparu rhagor o wybodaeth am sut y gellir gwneud darpariaeth o'r fath.

 

Cred y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru roi mesurau ar waith i sicrhau bod digon o ddarpariaeth ar gael yn y Gymraeg a bod digon o gapasiti o fewn y gweithlu cyfrwng Cymraeg i sicrhau'r ddarpariaeth honno. At hynny, o ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol nifer y siaradwyr Cymraeg, cred y Pwyllgor y dylech anelu nid yn unig i ateb y galw, ond i ddefnyddio'r rhaglen fel cyfle i annog y defnydd o'r Gymraeg.

 

Amserlen ar gyfer gweithredu

 

Rydych wedi gwneud ymrwymiad clir y bydd y rhaglen ar waith yn ei chyfanrwydd erbyn 2021.

 

Mae'r Pwyllgor yn cydnabod pa mor uchelgeisiol yw'r ymrwymiad hwn, o ystyried maint y rhaglen a'r materion y mae angen rhoi sylw iddynt. Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech ddarparu amserlen fras, gan gynnwys cerrig milltir a thargedau, o sut y byddwch yn darparu'r rhaglen erbyn 2021.

 

Rhianta cadarnhaol a'r costau sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth i ddileu'r amddiffyniad o gosbedigaeth resymol

 

Gwnaethoch ddweud wrth y Pwyllgor y byddech yn gwerthuso'r defnydd o'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a'r dulliau cyfathrebu eraill a ddefnyddir gennych fel rhan o'r rhaglen rhianta cadarnhaol. Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech ddarparu rhagor o wybodaeth am ganlyniadau'r gwerthusiad pan fydd ar gael. A allech hefyd ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am gyfran y cyllid a ddyrannwyd i ddarparu prosiectau o fewn y rhaglen, gan gynnwys y canlyniadau yr ydych yn disgwyl eu gweld o'r buddsoddiad hwnnw.

 

Mae'r Pwyllgor hefyd yn nodi nad yw cyllid wedi cael ei ddarparu ym mlwyddyn y gyllideb hon ar gyfer y ddeddfwriaeth arfaethedig i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosbedigaeth resymol gan na fydd y Bil yn barod yn y flwyddyn ariannol nesaf. Fodd bynnag, caiff gwaith paratoadol ei ariannu o'r gyllideb rhianta cadarnhaol. Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael manylion am y gwaith paratoi.

 

Plant sy'n Derbyn Gofal, mabwysiadu, CAFCASS Cymru

 

Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi cynyddu 5 y cant dros y pum mlynedd diwethaf, er ei fod wedi aros yn gymharol sefydlog dros y tair blynedd diwethaf. Bydd hyn yn anochel yn cael effaith ar gyllidebau gwasanaethau cymdeithasol a gwnaethoch gyfeirio at nifer o ymyriadau yr ydych yn eu harchwilio gyda'r nod o leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal. Gwnaethoch gyfeirio hefyd at grŵp cynghori ar blant sy'n derbyn gofal, sy'n cael ei gadeirio gan David Melding AC ac sy'n ystyried amrywiaeth o faterion perthnasol.

 

Mae'r Pwyllgor yn nodi y bydd yr ymyriadau a ddisgrifiwyd gennych yn yr rai ar gyfer yr hirdymor - byddant yn cymryd amser i gael effaith. Mae'r Pwyllgor yn ceisio sicrwydd gennych eich bod yn fodlon bod camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau fel y maent yn bodoli ar hyn o bryd. 

Gwnaethoch hefyd ddweud wrth y Pwyllgor fod y dyraniadau cyllid ar gyfer CAFCASS Cymru 'yn aros ar yr un lefel er gwaethaf galw cynyddol ar gyfeiriadau yn ystod y 12 mis diwethaf.' Dywedodd Prif Weithredwr interim CAFCASS Cymru wrth y Pwyllgor fod y gwasanaeth yn rheoli'r cynnydd yn y galw o ganlyniad i ailstrwythuro mewnol a rhaglen foderneiddio, a oedd wedi cynyddu gwytnwch. Mae'r Pwyllgor yn ceisio sicrwydd gennych, pe bai'r galw yn parhau i gynyddu, eich bod yn hyderus bod y gwasanaeth yn gynaliadwy.

 

Chwarae, Cyfranogiad a Hawliau Plant

 

Mae'r Pwyllgor, unwaith eto, yn siomedig na chafodd Asesiad o'r Effaith ar Hawliau'r Plentyn ei baratoi ar gyfer y gyllideb ddrafft hon. O ystyried bod dyraniadau ariannol Llywodraeth yn amlwg yn un o'r ffyrdd mwyaf amlwg yr effeithir ar hawliau plant, mae'n anodd deall pam nad oedd angen asesiad o'r fath er mwyn cydymffurfio â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae diffyg Asesiad annibynnol a thryloyw o'r Effaith ar Hawliau'r Plentyn yn golygu ei bod yn fwy anodd nodi sut y bydd dyraniad Llywodraeth Cymru o adnoddau yn effeithio ar blant a phobl ifanc, ac ar grwpiau unigol o fewn y boblogaeth honno.

 

Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech roi enghreifftiau o sut yr effeithiwyd ar ddyraniadau'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18, neu sut y cawsant eu newid, o ganlyniad i ystyriaeth Llywodraeth Cymru o hawliau plant.

 

Tlodi plant

 

Cymunedau gwydn a Phrofiadau Niweidiol i Blant

 

Mae'r Pwyllgor yn croesawu eich gonestrwydd wrth drafod y diffyg cynnydd wrth fynd i'r afael â thlodi ac yn nodi bod rhai materion mewn perthynas â'r agenda hon, fel diwygio lles, y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn croesawu eich sylwadau am bwysigrwydd ymyriadau ataliol cynnar. Nododd y Pwyllgor hefyd gyda diddordeb eich sylwadau am Brofiadau Niweidiol i Blant. Mae'r rhain yn bynciau y mae'r Pwyllgor yn edrych ymlaen at eu trafod gyda chi dros y flwyddyn nesaf.

 

Rwy'n anfon copi o'r llythyr hwn at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid er mwyn llywio ei waith craffu cyffredinol ar y Gyllideb Ddrafft.

 

Yn gywir

Lynne Neagle AC
Cadeirydd

Copi at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid